SL(6)393 – Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 (“Rheoliadau 1979”) i ddarparu ar gyfer materion gweithdrefnol sy’n deillio o adrannau newydd sydd wedi’u mewnosod yn Neddf Coedwigaeth 1967 (“Deddf 1967”) gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae’r diwygiadau’n nodi cyfnodau rhagnodedig sy’n ymwneud â gorchmynion diogelu coed a hawliadau am ddigollediad, a chyfnodau rhagnodedig a’r dull o apelio am apelau sy’n ymwneud â thrwyddedau cwympo.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y naw pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 1(4), diffinnir Deddf Coedwigaeth 1967 fel “y Ddeddf” yn y Rheoliadau hyn, ond ni ddefnyddir y term “y Ddeddf” wedyn yng nghorff y Rheoliadau. Dim ond yn y diwygiadau gan y Rheoliadau hyn i destun Rheoliadau 1979 y defnyddir y term, ond mae “y Ddeddf” eisoes wedi’i ddiffinio yn Rheoliadau 1979 ac felly nid oes angen ei ddiffinio yn y Rheoliadau hyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliadau 4 a 7 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Rheoliadau 1979. Mae penawdau’r darpariaethau newydd yn cyfeirio at rifau adrannau o Ddeddf 1969, ond nid ydynt yn mynd ymlaen wedyn i gynnwys y geiriau “of the Act”. Er y gellir tybio’r ystyr o weddill y darpariaethau sydd i’w mewnosod yn Rheoliadau 1979, mae’r penawdau newydd yn anghyson â gweddill darpariaethau tebyg yn Rheoliadau 1979 ac nid ydynt yn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Rheoliadau.

Yn yr un modd, mae’r penawdau sy’n rhagflaenu rheoliadau 5 a 7 yn cyfeirio at adrannau ond nid ydynt yn cyfeirio at y Ddeddf y maent yn dod ohoni. Mae’r pennawd sy’n rhagflaenu rheoliad 5 hefyd yn cyfeirio at Gorff Adnoddau Naturiol Cymru nad yw’n cael ei ddiffinio at ddiben y Rheoliadau hyn.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliadau 5 a 7 yn mewnosod rheoliadau newydd 14A a 15A yn y drefn honno yn Rheoliadau 1979. Drwy’r rheoliadau newydd hyn cyfeirir at adrannau, ond ar y rhan fwyaf o’r achlysuron pan fydd hyn yn digwydd, ni phennir o ba Ddeddf y mae’r adrannau hyn yn dod. Dylai’r cyfeiriadau at adrannau gael eu dilyn gan “of the Act” ar bob achlysur yn rheoliadau newydd 14A a 15A i sicrhau eglurder a chysondeb â gweddill Rheoliadau 1979.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad newydd 15A sydd i’w fewnosod yn Rheoliadau 1979 gan reoliad 7 gwneir sawl cyfeiriad at rifau adrannau, ond mae’r gair “section” ar goll ar sawl achlysur.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad newydd 14A(2) sydd i’w fewnosod yn Rheoliadau 1979 gan reoliad 5, defnyddir y gair “shall”. Mae “shall” yn amwys oherwydd y gellir ei ddefnyddio i gyfeirio at y dyfodol, i osod rhwymedigaethau, neu mewn ystyr datganiadol. Er y gellid ei ddefnyddio i sicrhau bod terminoleg yn gyson â gweddill Rheoliadau 1979, mae geiriad tebyg yn rheoliad newydd 14A(1) yn defnyddio’r gair “must”, sy’n rhoi mwy o eglurder i’r darllenydd.

Yn yr un modd, yn rheoliad newydd 15A(2) a (3) a fewnosodir gan reoliad 7 ceir datganiadau datganiadol fel a ganlyn: “the prescribed period for claiming expenses reasonably incurred…. will be eighteen months”. Fodd bynnag, ar y llaw arall, yn rheoliadau newydd 4A(1), 13A(1) a 15A(4), mae’r geiriad fel a ganlyn: “the prescribed period is…” sy’n rhoi mwy o eglurder. Felly, nid oes eglurder ynghylch y defnydd o “will be” wrth ddrafftio’r rheoliad newydd 15A(2) a (3) ac mae hefyd yn anghyson â’r dull o ymdrin â’r diwygiadau eraill i’r testun wrth ragnodi cyfnodau amser.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad newydd 14A(2) a (3), a rheoliad newydd 15A(2), a fewnosodir gan reoliadau 5 a 7 yn y drefn honno, ceir cyfnodau amser a ddisgrifir fel “beginning on the day”. Fodd bynnag, mae canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru, Drafftio Deddfau i Gymru, yn nodi na ddylid disgrifio cyfnodau amser fel rhai sy’n dechrau “ar” ddiwrnod oherwydd y gall greu amheuaeth ynghylch faint o’r gloch yn union ar y diwrnod y bydd y cyfnod amser yn dechrau. Mae’r canllawiau’n argymell disgrifio cyfnodau amser fel rhai sy’n dechrau “â’r” diwrnod. Felly, nid yw drafftio’r diwygiadau hyn i’r testun yn dilyn canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru ei hun wrth ddisgrifio dechrau cyfnodau amser.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Ym mharagraff 5b o’r Ffurflen newydd 1A a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, cyfeirir at “regulation 15A(4)”, ond ni roddir unrhyw wybodaeth ynghylch at ba reoliadau y cyfeirir atynt. Er y ceir Ffurflen 1A yn Rheoliadau 1979, yn ymarferol bydd pobl yn ei defnyddio ar wahân, nid fel rhan o Reoliadau 1979, ac felly ni fydd gan y defnyddiwr unrhyw bwynt cyfeirio i benderfynu beth mae rheoliad 15A(4) yn ei ddweud.

Dylid nodi hefyd na roddir diffiniad yn y ffurflenni ar gyfer “the Act” na “the NRBW”, a allai eto, oherwydd y modd y bydd y ffurflenni hyn yn cael eu defnyddio’n ymarferol, wneud pethau’n ddryslyd i’r darllenydd ac mae’n anghyson â’r dull o ymdrin â’r ffurflenni presennol yn Rheoliadau 1979.

Ceir cyfeiriadau anghyflawn hefyd yn Ffurflen 1A a Ffurflen 9A, lle y nodir rhifau adrannau ond na chânt eu dilyn gan unrhyw gyfeiriad at Ddeddf. Mae hyn yn anghyson â geiriad y ffurflenni presennol yn yr Atodlenni i Reoliadau 1979 ac nid oes eglurder i’r darllenydd.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Ffurflen newydd 1A, nid yw’n ymddangos ei bod yn bosibl i baragraffau 6 a 7 fod yn gymwys ar yr un pryd, gan fod paragraff 6 yn gofyn am gadarnhad nad oes hysbysiad arall wedi’i roi eto a bod paragraff 7 yn gofyn am fanylion hysbysiadau eraill a roddwyd. Ymddengys y dylai’r paragraffau hyn fod wedi’u drafftio fel dewisiadau amgen a dylid gwahodd y defnyddiwr i ddileu fel y bo’n briodol, fel mewn rhannau eraill o’r ffurflen.

9.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Ffurflen newydd 9A, ym mharagraff 1, mae’n ofynnol i’r apelydd nodi rhif yr adran berthnasol o’r hysbysiad lle y mae’n datgan “under Section…. [enter section here] of the Forestry Act 1967.” Fodd bynnag, ym mharagraff 4 o’r un Ffurflen ac ym mharagraff 1 o Ffurflen newydd 1A, rhestrir rhifau’r gwahanol adrannau i’r defnyddiwr eu dileu fel y bo’n briodol yr ymddengys ei bod yn gwneud y ffurflen yn haws ei llenwi. Felly, mae hyn yn gofyn am eglurhad ynghylch pam y mae paragraff 1 wedi’i ddrafftio mewn ffordd wahanol i’r darpariaethau eraill hynny ac sy’n ei gwneud yn fwy anodd i’r hawlydd lenwi’r ffurflen.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Hydref 2023